Lleoliad:
Ystafell bwyllgora 5
Dyddiad: Dydd Iau, 1 Rhagfyr 2022
Amser:
09.00 -
12.35
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13069
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
John Griffiths AS (Cadeirydd) Mabon ap Gwynfor AS Jayne Bryant AS Joel James AS Sam Rowlands AS Carolyn Thomas AS |
Tystion: |
David Phillips, Sefydliad Astudiaethau Cyllid Dr. Rhys ap Gwilym, Prifysgol Bangor Jon Rae, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) Leah Whitty, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) Lis Burnett, Cyngor Bro Morgannwg Dyfrig Siencyn, Cyngor Gwynedd Dr Victoria Winckler, Sefydliad Bevan Andrew Dixon, Fairer Share James Wood, National Residential Landlords Association |
Staff y Pwyllgor: |
Manon George (Clerc) Catherine Hunt (Ail Glerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Osian Bowyer (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.
1.2. Datganodd Joel James AS fuddiant perthnasol.
2 Ymchwiliad i ddiwygio'r dreth gyngor - sesiwn dystiolaeth 1
2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
David Phillips, Cyfarwyddwr Cyswllt, y Sefydliad Astudiaethau Cyllid
Dr Rhys ap Gwilym, Uwch-ddarlithydd mewn Economeg, Ysgol Fusnes Prifysgol Bangor
3 Ymchwiliad i ddiwygio'r dreth gyngor - sesiwn dystiolaeth 2
3.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
Y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd, Cyngor Bro Morgannwg
Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Arweinydd, Cyngor Gwynedd
Leah Whitty, Swyddog Polisi Cyllid, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Jon Rae, Cyfarwyddwr Adnoddau, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
4 Ymchwiliad i ddiwygio'r dreth gyngor - sesiwn dystiolaeth 3
4.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
Dr Victoria Winckler, Sefydliad Bevan
Andrew Dixon, Cadeirydd, Fairer Share
James Wood, Rheolwr Polisi, y Gymdeithas Genedlaethol Landlordiaid Preswyl
5 Papurau i'w nodi
5.1 Llythyr gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch cartrefu ffoaduriaid o Wcráin
5.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch cartrefu ffoaduriaid o Wcráin.
5.2 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at holl Gadeiryddion y Pwyllgorau mewn perthynas â Chyllideb Ddrafft 2023-24 Llywodraeth Cymru
5.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at holl Gadeiryddion y Pwyllgorau mewn perthynas â Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24.
5.3 Ymateb gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i'r adroddiad ar asedau cymunedol
5.3.a Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i'r adroddiad ar asedau cymunedol.
5.4 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau mewn perthynas â Deiseb P-06-1304 Adolygu'r polisi tai dros dro mewn argyfwng sy'n effeithio ar ein cymunedau
5.4.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau mewn perthynas â Deiseb P-06-1304 Adolygu'r polisi tai dros dro mewn argyfwng sy'n effeithio ar ein Cymunedau.
5.5 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad mewn perthynas â’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio
5.5.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad mewn perthynas â’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
6.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
7 Ymchwiliad i ddiwygio’r dreth gyngor - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2, 3 a 4.
7.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.